SL(5)253 - Rheoliadau Trwyddedu Petrolewm (Ffioedd) (Cymru) 2018

 Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru godi ffioedd mewn cysylltiad â chais iddynt am drwydded petrolewm o dan Ddeddf Petrolewm 1998 ac ar gyfer cydsyniadau sy’n ofynnol o dan y trwyddedau hynny ar gyfer gweithgareddau a materion amrywiol a restrir.

Mae Adran 23 o Ddeddf Cymru 2017 yn trosglwyddo swyddogaethau trwyddedu o dan Ran 1 o Ddeddf Petrolewm 1998 i Weinidogion Cymru, mewn perthynas ag ardal arfordir Cymru. Daw'r darpariaethau hynny i rym ar 1 Hydref 2018 ac felly mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud ar ymarfer rhagweladwy o bwerau.

Y weithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodwyd tri phwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(i) – mae’r offeryn yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu i unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus yn gydnabyddiaeth am unrhyw drwydded neu gydsyniad neu am unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath;

Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaeth sy'n rhagnodi'r ffioedd sy'n daladwy i Weinidogion Cymru mewn perthynas â cheisiadau iddynt am drwydded petroliwm ac am gydsyniadau amrywiol mewn perthynas â thrwyddedau petroliwm. Bydd yn rhaid gwneud taliadau o'r fath i Gronfa Gyfunol Cymru yn unol ag adran 188(13) o Ddeddf Ynni 2004.

2.    Rheol Sefydlog 21.3 (ii) - mae'r offeryn yn cynnwys darpariaethau sy'n codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Mae Rheoliad 4 yn nodi fformiwla ar gyfer penderfynu ar y ffi sy'n daladwy wrth wneud cais i Weinidogion Cymru am ganiatâd ar gyfer rhaglen datblygu a chynhyrchu. Y ffi sy'n daladwy yw swm sefydlog (o £595) a gaiff ei luosi â nifer y dyddiau y mae’n rhaid i swyddog eu treulio’n penderfynu ar y cais.

Gan hynny, ni fydd y gost yn hysbys pan ymgeisydd yn cyflwyno’r cais. Bydd yr ymgeisydd, fodd bynnag, yn ymrwymo i dalu cost cais hwnnw trwy gyflwyno'r cais.

Mae'r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â'r Rheoliadau hyn yn nodi mai’r " rationale for this approach is this type of application varies greatly from one case to another. If a standard fee was applied it would result in more straightforward applications subsidising the cost of more complex applications which take longer to determine".

3.    Rheol Sefydlog 21.3 (ii) - mae'r offeryn yn cynnwys darpariaethau sy'n codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Mae Rheoliad 8 (3) yn cynnwys darpariaeth sy’n nodi bod modd adennill unrhyw ffioedd sy'n ddyledus o dan y Rheoliadau hyn ar ffurf dyled sifil. Felly, bydd Gweinidogion Cymru yn gallu adennill symiau dyledus yn ddiannod drwy’r llysoedd ynadon yn unol â Deddf Llysoedd Ynadon 1980.

Mae'r Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn nodi "without this provision, the Welsh Ministers would first have to litigate to prove the debt and obtain a court judgement before it could then seek to enforce the judgment and recover the sums due. This would involve unnecessary expense to the public purse".

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb y llywodraeth.

 

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

14 Medi 2017